Diweddariad Neuadd Goffa Llanfairpwllgwyngyll
“Lle dwi yn dechrau”? Mae yna ddywediad yn does, sef “Aml i gnoc a dyr y garreg”. Mae hyn yn wir yn hanes pwyllgor Neuadd Goffa, Llanfairpwllgwyngyll. Yn y dechreuad gwnaethpwyd cais i adeiladu Neuadd newydd, foethus, oedd i gostio o ddeutu £700,000. Derbyniwyd rhoddion haelionus gan y cyhoedd tuag at y prosiect, yn enwedig ar gyfer y cynlluniau ar archwiliadau, gan gynnwys cyngerdd mawreddog, Parhaodd y ceisiadau am gymorth i greu y freuddwyd, ond gwrthodwyd pob ymgais. ’Rwyn cofio llenwi ffurflenni cymhleth rhwng y Nadolig ar flwyddyn newydd, yn eistedd mewn ystafell rhewllyd. ‘Roedd angen i’r cais gyrraedd pen y siwrnai yn gyflym. Y canlyniad – ia gwrthodwyd, unwaith eto.
OND yn ddiweddar daeth haul ar fryn a llwyddiant ar ôl blynyddoedd o wagle. Hyn yn ddiolch i ymdrechion di- ddiwedd a di-flino Cynghorwyr Gareth Cemlyn Jones, Alun Mummery, John Roberts, Stephen Edwards, Gwynfor Parry ac Anwen Le Cras, Clerc y Cyngor Bro. Yn ogystal diolch am waith gofalus a thrwyadl Lyndsey Campbell – Williams o Medrwn Môn. Drwy ei arweiniad cyson derbyniwyd grant o £52,000 gan I. C. F., £200.000 gan CFAB a £50,000 gan y loteri. Ar ôl cyfnod hir siomedig a di – gysur cyrhaeddodd tri sŵm o arian o fewn wythnosau i’w gilydd.
Felly anfonwyd cais cynllunio i’r adran berthnasol yn Llangefni gan gwmni lleol Dewis ac yn gynnar yn y flwyddyn newydd derbyniwyd caniatâd i addasu yr hen adeilad ac i greu estyniad newydd. Y gobaith yw cychwyn y gwaith yn y dyfodol agos.
Fel Cadeirydd pwyllgor Neuadd Goffa Llanfairpwllgwyngyll, mawr yw fy niolch i aelodau y pwyllgor, aelodau y Cyngor Bro, yn ogystal i Dewi a Rhiannon o gwmni Dewis ac yn enwedig i Lyndsey. Newyddion ardderchog i drigolion y pentref arbennig yma.
Alun Jones,
Cadeirydd Pwyllgor Neuadd Goffa Llanfairpwllgwyngyll.