Cyfarfod Llawn Cyngor Bro:  5 Ragfyr 2023 am 19:00yh yn y Neuadd Goffa

Llwyddiant – Grant i wella Neuadd Goffa

 

Neuadd Goffa Llanfairpwll yn Ennill Grant Cymunedol Mae Neuadd Goffa Llanfairpwll i dderbyn £200,000 tuag at y gost o £302,400 i uwchraddio, ymestyn ac adnewyddu’r Neuadd Goffa at ddefnydd cymunedol ehangach.

Cyhoeddwyd y newyddion am y Neuadd Goffa gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, ymysg rhestr o brosiectau llwyddiannus ar draws Cymru a oedd i rannu’r cyllid o £900k o Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru. Mae’r arian yn cael ei roi ar gyfer gwella cyfleusterau yn y gymuned a fydd yn hybu lles cymunedol. Yn ôl Jane Hutt: “Mae cynnig grantiau tebyg i’r rhain i brosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned yn helpu i wella cyfleusterau sydd eu hangen yn fawr ac sy’n chwarae rhan mor bwysig ym mywydau pobl ledled Cymru. Dw i eisiau ystyried a dathlu’r cyfraniad enfawr a wneir gan sefydliadau’r trydydd sector a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mor galed yn eu cymunedau i roi help a chymorth hanfodol lle y mae ei angen fwyaf.”

Er fod dathlu yn Llanfairpwll ar ôl clywed y newyddion, mae Cadeirydd Pwyllgor y Neuadd Goffa, y Cynghorydd Alun Jones, yn dweud nad ydy’r siwrne i gael yr arian wedi bod yn un hawdd: “Mae ’na ddywediad yn does – ‘dyfal donc a dyr y garreg’. Mae hyn yn wir yn hanes Pwylllgor Neuadd Goffa Llanfairpwll. Dwn i ddim sawl ffurflen gais am grant wnaethom ni lenwi gyda help gwahanol bobol swyddogol, a chael ein gwrthod. “Yn y diwedd, ar ôl sawl blwyddyn ac ymdrechion lu i godi arian trwy gynnal cyngherddau ac yn y blaen, wythnosau o ymchwil gan wahanol gynghorwyr, ac wrth gwrs help gan Lyndsey Campbell-Williams o Medrwn Môn (fe wnaeth Lyndsey ein harwain ni a llenwi’r ffurflenni i gyd) fe fuom yn llwyddiannus i gael grant gan ICF am £52,000.

Fe wnaeth Lyndsey ar yr un pryd gais i CFAP am £200,000 – a llwyddiant unwaith eto – ar ôl disgwyl am bron 6 mis i glywed. “Ymlaen rwan i gael caniatâd cynllunio ac yn y blaen. Fel Cadeirydd Pwyllgor Neuadd Goffa Llanfairpwll fedra i ddim diolch digon i aelodau’r Pwyllgor, i Anwen Le Cras, y Clerc, i Dewi o gwmni Dewis, ac i Lyndsey o Medrwn Môn. Dwi wedi bod yn ffodus iawn i gael eu cefnogaeth nhw i gyd, ac mae’n syndod na wnaethon nhw dorri eu calonnau fisoedd yn ôl.” Mae ceisiadau ar gyfer y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r Neuadd yn rhan hanfodol o hanes y pentref. Y gobeithion fydd cyflawni gwelliannau yw gwneud yn ganolfan a hwb cymunedol gyda chyfarpar ac adnoddau addas i bob oedran o’r gymuned  

Mae yna tipyn mwy o waith yw gwneud ond rydym yn hyderus bydd y prosiect yn symud ymlaen o’r diwedd.

Mwy o fanylion i ddilyn ar y prosiect cymunedol pwysig yma